Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda
drwy Zoom
Dyddiad: 8 Mehefin 2022
Amser:
11.17 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12864
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS |
Tystion: |
Yr Athro Amanda Kirby, ADHD Foundation Yr Athro Anita Thapar |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
2 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Amanda Kirby a’r Athro Anita Thapar.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Ymateb gan y Cadeirydd i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.2 Gwybodaeth ychwanegol gan yr Athro Rob Poole, y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Mai
3.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.
3.3 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch Gweithrediaeth y GIG i Gymru
3.4 Nododd y
Pwyllgor y llythyr.
3.4 (a) Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y 34 o sefydliadau a
ysgrifennodd yn ddiweddar at y Pwyllgor, ynghylch sefydlu
Gweithrediaeth y GIG annibynnol, i roi iddynt gopi o lythyr y
Gweinidog ac i ofyn am eu barn ar ymateb y Gweinidog.
3.5 Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor: Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru
3.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.